Community Justice Interventions Wales

“Mae’n wirioneddol werthfawr gweld y newid yn y disgyblion a’r rhieni hyn, ac mae eu hathrawon wedi rhoi adborth mor gadarnhaol ar eu datblygiad.”

Vicki Greenhill, Swyddog Datblygu YCCC

Her Gwasanaethau Antur

Mae’r cynllun Her Gwasanaethau Antur yn gweithredu mewn partneriaeth â Thimau Troseddau Ieuenctid Abertawe a Gwynedd/Môn ac mae wedi llwyddo i gynnwys pobl ifanc dan 14 oed a dan anfantais mewn gweithgareddau cyffrous ac adeiladol sy’n cynnig llwybr i gymryd rhan yng Ngwobr Dug Caeredin maes o law.