Bwrdd CJIW
Ar 1 Mawrth 2010
Cadeirydd: Dr Dewi Wyn Roberts MBE, M.A. (Cantab), MB, B. Chir, MRCS, LRCP, LP, DL
Addysgwyd Dewi Roberts yn Ysgol Ramadeg Biwmares, ac yng Ngholeg Downing, Caergrawnt. Daeth yn feddyg yn 1964, ac mae wedi treulio’i yrfa fel ymarferydd cyffredinol. Mae’n gyn-athletwr cenedlaethol dros Gymru ac wedi ennill Rhuban Las yng Nghaergrawnt. Bellach mae’n treulio’i amser gyda materion chwaraeon ac ieuenctid. Mae’n gyn Uchel Siryf Gwynedd, ac yn Ddirprwy Lifftenant ar hyn o bryd. Mae’n aelod o gyngor Prifysgol Bangor. Mae’n Gadeirydd YCCC o’r cychwyn.
Mr Jeremy Corbett CBE, MA
Treuliodd Mr Corbett ei yrfa yn y Gwasanaeth Prawf, gan ymddeol fel Pennaeth Ymyrraeth gydag Ymddiriedolaeth Brawf Dyfed Powys. Mae ganddo brofiad helaeth o’r sector gwirfoddol, yn sgil gwasanaethu ar Fyrddau ar lefel leol a chenedlaethol, a bu’n Gadeirydd Cyngor Cenedlaethol Cymoreth i Ddioddefwyr o 1999-2002 ac yn Is-Gadeirydd ei Fwrdd Ymddiriedolwyr o 2005-2008. Ar hyn o bryd mae’n cynrychioli Cy,orth i Ddioddefwyr ar y pwyllgor Rjeolau Gweithdrefnau Troseddo. Yn 2007 dyfarnwyd CBE iddo am wasanaethau i’r System Cyfiawnder Troseddol.
Mrs Stephanie Price
Mrs Price yw Cyfarwyddwraig Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru er Awst 2005. Mae ei rôl yn cynnwys rheolaeth strategol a sicrwydd ansawdd y Wobr yng Nghymru ac mae hi’n aelod allweddol o Adran Weithredol y Wobr yn y DU.
Mr William Thom LL.B.
Cyn Dditectif yw Mr Thom ac yn sgil astudio’r gyfraith fel myfyriwr hŷn ym Mhrifysgol Glasgow, mae bellach yn gweithio fel eiriolwr amddiffynnol troseddol yn llysoedd yr Alban.
Mr James Turner MA (Cantab); FCIM; MIIM
Bu gyrfa Mr Turner mewn busnes rhyngwladol a thros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain mae wedi gweithio fel prif Weithredwr mewn corfforaethau blaenllaw ledled y byd. Yn sgil dychwelyd i Gymru, bu’n Rheolwr Gyfarwyddwr Awdurdod Datblygu Cymru cyn mynd rhagddo i sefydlu ei ymgynghoriaeth reoli ei hun. Yn ystod y pymtheng mlynedd ddiwethaf mae wedi cyflawni sawl rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol mewn busnesau preifat a sefydliadau cyhoeddus. Erbyn hyn, yn y sector cyhoeddus, mae’r rhain yn cynnwys: Bwrdd Rheoli Llywodraeth Cynulliad Cymru; Bwrdd Gorchymyn y Llynges Frenhinol; Ymddiriedolaeth GIG Robert Jones ac Agnes Hunt. Ymhlith ei waith gwirfoddol mae’n gwasanaethu fel Dirprwy Gadeirydd Corff Cynrychioliadol yr Eglwys yng Nghymru
Y Cyrnol Phylip Hubbard (Wedi Ymddeol) OBE, DL, CMgr, FCMI, MIHM MSc
Treuliodd y Cyrnol Hubbard ei yrfa yn y Fyddin (y Corfflu Meddygol Brenhinol), gan ymddeol yn brif Swyddog Ysbyty Maes Cymru. Ei arbenigedd yw hyfforddiant a datblygiad - sef cynorthwyo a chyfarwyddo eraill, yn enwedig pobl ifanc, i wireddu eu dyheadau. Ar hyn o bryd ef yw Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru sy’n gyfrifol am y Mudiad Llu Cadetiaid yng Nghymru. Dyfarnwyd OBE iddo yn 2009 am wasanaethau i Iechyd Milwrol. Y Cyrnol Hubbard yw Dirprwy Arglwydd Lifftenant Morgannwg Ganol.
Ymgynghorydd arbennig i’r Bwrdd:
Yr Athro Howard Williamson CBE
Dr Howard Williamson yw Athro Polisi Ieuenctid Ewrop yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Morgannwg. Gweithiodd cyn hynny ym mhrifysgolion Rhydychen, Caerdydd a Copenhagen, yn ogystal â gweithio fel gweithiwr ieuenctid am dros 20 mlynedd. Mae wedi cyfrannu at ddatblygu polisi ieuenctid yng Nghymru, yn y DU ac ar draws gwledydd yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop. Ar hyn o bryd mae’r Athro Williamson yn aelod o’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ac yn Ymddiriedolwr Gwobr Dug Caeredin. Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar ystod o faterion ieuenctid, yn enwedig ar ddieithrwch cymdeithasol, gan gynnwys The Milltown Boys Revisited (Berg 2004), sef dilyniant i astudiaeth o grŵp o ddynion yr oedd wedi eu cyfarfod am y tro cyntaf 25 mlynedd cyn hynny pan oeddynt yn droseddwyr ifanc yng nghanol y 1970au. Dyfarnwyd CBE iddo yn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2002 am wasanaethau i bobl ifanc.
Ymgynghorydd Cyfreithiol Mygedol i’r Bwrdd:
Mr Gwion Lewis BA, BCL, LLM
Mae Gwion Lewis yn fargyfreithiwr yn Siambrau Landmark yn Llundain, gan arbenigo mewn cyfraith gyhoeddus, cyfraith amgylcheddol a chynllunio a hawliau dynol. Graddiodd yng Ngholeg Iesu Rhydychen (BA, BCL) ac mae ganddo LLM mewn cyfraith hawliau dynol rhyngwladol o Brifysgol Efrog Newydd. Mae’n gyn Ysgolhaig Fulbright (2003-04) ac yn awdur sawl erthygl a llyfr am gyfraith amgylcheddol a hawliau iaith, gan gynnwys Hawl i’r Gymraeg (Y Lolfa, 2008).

