Sgiliau Byw Annibynnol/Sgiliau at y Dyfodol
Cyfunwyd llawer o fewnbwn addysgol amrywiol YCCC mewn rhaglen Sgiliau Byw Annibynnol a ddarparwyd i rai sy’n cymryd rhan mewn gwasanaethau Prawf, YOT ac Ymyrraeth Cyffuriau. Mae’r cwrs yn para am ddeuddeg wythnos ac mae’n cwmpasu sesiynau theoretig ac ymarferol sy’n ffocysu ar arian, dyled a dinasyddiaeth, llety, cam-drin sylweddau, addysg a hyfforddiant, ynghyd ag agweddau, meddwl ac ymddygiad. Achredir y cwrs gan y Rhwydwaith Coleg Agored ac mae’n cynnig dilyniant trwy’r Gwobrau Dug CAEREDIN a Menter.

