Croeso i wefan CJIW
Ein Hamcanion:
Nodau CJIW, fel y’u cofnodir gyda’r Comisiwn Elusennau, yw “hyrwyddo addysg a lleihau trosedd ac ymddygiad anghymdeithasol trwy ddarparu neu gynorthwyo i ddarparu cyfleusterau hamdden, cyngor, cyfarwyddyd, cymwysterau achrededig ac addysg er budd lles cymdeithasol y trigolion hynny yng Nghymru a all ddod i gysylltiad â’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol a/neu a all fod mewn perygl o wneud hynny, neu bobl sydd dan anfantais gymdeithasol, fel y gallant chwarae rhan lawn fel unigolion ac aelodau cymdeithas.’
Ein Cenhadaeth:
Cenhadaeth CJIW yw ‘datblygu’r bobl y mae’n gweithio â hwy fel y gallant gyflawni eu potensial llawn fel unigolion ac aelodau cymdeithas’.

