Mwy am ein gwasanaethau
Yn ystod 2008-10 mae YCCC wedi:
- Gweithio gyda thros 4,000 o ddefnyddwyr gwasanaethau ar draws Cymru.
- Darparu 2,120 o unedau Rhwydwaith Coleg Agored trwy ein partneriaeth â Choleg Cymunedol YMCA Cymru.
- Cefnogi 115 o bobl ifanc i ennill Gwobr Dug Caeredin a helpu 1400 arall i ennill tystysgrifau adrannol.
- Rhedeg 23 o alldeithiau Gwobr Dug Caeredin gyda 128 yn cymryd rhan.
- Helpu 673 o ddefnyddwyr gwasanaethau i gael gwaith neu dderbyn addysg bellach.
- Recriwtio, hyfforddi a defnyddio 106 o wirfoddolwyr i gefnogi pobl ifanc ar draws Cymru.
- Cyflogi 29 o staff amser llawn a thri o staff rhan-amser.
- Cyflogi 16 o bobl ifanc trwy Gronfa Swyddi’r Dyfodol.
- Llwyddo i ddarparu’r prosiect Sgiliau’r Dyfodol ar ran y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr.
- Darparu Cylchoedd Cefnogaeth ac Atebolrwydd i 34 o droseddwyr rhyw risg uchel.
- Dyfeisio, trefnu a rhedeg dwy academi bêl-droed gyda 350 o bobl ifanc yn cymryd rhan.
- Trefnu a goruchwylio 8,200 o oriau o waith di-dâl i rai 16-18 oed, gyda 87 yn llwyddo i gwblhau’r elfen hon yn eu gorchmynion.
- Ehangu ein partneriaeth gyda Choleg Cymunedol YMCA Cymru, gan dyfu o 620 o unedau RhCA yn 2007/8 i 2,500 a fwriedir yn 2010/11.
- Parhau i ddarparu’r Wobr Ymdrech, sef rhaglen fodiwlaidd o ddatblygiad personol a achredir gan y Rhwydwaith Coleg Agored i rai dros 25 oed.
- Datblygu’r Her Gwasanaethau Antur i rai 8-14 oed yng Ngwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid Abertawe a Gwynedd/Ynys Môn.
- Helpu defnyddwyr gwasanaethau i godi £10,000 trwy weithgareddau noddedig er mwyn prynu gwely gofal canser yn Ysbyty Glan Clwyd, Sir Ddinbych.
- Derbyn117 o adroddiadau cadarnhaol yn y wasg yn tynnu sylw at gyfraniad da pobl ifanc yn eu cymunedau, yn ogystal â 16 o ddarllediadau ar y radio a’r teledu.
- Cefnogi datblygiad Arc Communities, sef prosiect ar sail ffydd syn darparu cymorth i bobl ddigartref ym Mangor a Bae Colwyn.
- Datblygu menter gymdeithasol amaethyddol yn Sir Ddinbych sy’n darparu hyfforddiant mewn garddwriaeth i 150 o bobl ifanc bob blwyddyn.
- Derbyn £370,000 o gyllid newydd o Gronfa’r Loteri Fawr, Ymddiriedolaeth Tudor a Strategaeth Dinas y Rhyl i ddarparu prosiectau.
- Derbyn cydnabyddiaeth trwy wobrau am arfer da gan Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Gogledd Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Chynghrair Diwygio Troseddau Howard

