TAPE – Cerdd a Ffilm
Ein cydweithrediad llwyddiannus diweddaraf yw gweithio gyda chwmni Cerdd a Ffilm sy’n darparu cyfleoedd cyffrous i gymryd rhan mewn prosiectau cerddoriaeth a ffilmiau. Mae CJIW a TAPE wedi cydweithio i ddatblygu a gosod cyfarpar mewn canolfan adnoddau ym Mae Colwyn ac, wrth gwrs, rydym wedi cefnogi datblygiad y band o ddefnyddwyr gwasanaethau - Wild Stallions! Mae’r fenter ddiweddaraf ar y cyd gan CJIW/TAPE yn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaethau i gynhyrchu DVD yn hyrwyddo’r gwasanaethau a gynigir gan y prosiect DAWN.

