Gwirfoddoli
Mae YCCC wedi recriwtio a rheoli dros gant o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n bennaf trwy’r prosiectau COSA ac Arc. Yn ogystal â’n gwirfoddolwyr sy’n oedolion, mae’r bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn miloedd o oriau o waith gwirfoddol mewn gweithgareddau noddedig yn eu cymunedau gan gynnwys codi £10,000 i brynu gwely gofal canser yn Ysbyty Glan Clwyd.

